




Ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, caiff byd Lleu ei chwalu gyda'r newyddion ei fod wedi ei fabwysiadu. Ar yr un diwrnod, mae ei ffrind Rhiannon yn amau ei bod yn feichiog, ac mae Dan, sy'n byw yng nghysgod ei frawd mawr, yr un mor chwit chwat ag erioed.
Er gwaethaf eu problemau personol mae'r tri yn dod at ei gilydd ar ben-blwydd Lleu, ac yn cychwyn ar anturiaeth mewn cwch bysgota fychan. Ymhen ychydig maent yn gweld rhyw newid yn y dwr, ac maent yn sylweddoli eu bod, ar noswyl Gwyl Fai, wedi dod o hyd i borth aur y Byd Arall, sydd i'w weld yn disgleirio ymhell o dan y don.
A hithau yn ferch annibynnol a phenstiff, dydy Rhiannon ddim yn meddwl ddwywaith cyn plymio i'r môr mawr, a dydy'r ddau arall ddim yn hir yn ei dilyn. Fel y maent yn plymio yn is ac yn is i'r dyfnderoedd ac yn nesàu at y porth, fe gânt eu cludo ganrifoedd yn ôl i fyd anhygoel y Mabinogi.
Ond mae gan Rhiannon, Manawydan a Lleu Llaw Gyffes eu problemau Canol Oesol eu hunain. Mae Rhiannon yn cael ei gorfodi i briodi rhywun nad yw'n ei garu, mae Manawydan yn ceisio gwneud iawn am gynllwynio mileinig brawd byrbwyll ac mae Lleu yn ceisio dygymod â'r ffaith i'w fam ei wrthod fel baban.
Wrth geisio goresgyn y problemau hyn rhaid i'r cymeriadau wynebu'r gwrthdaro rhwng ffawd, dewis personol a hud a lledrith.