Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol

Cameleon Yn ôl i Chwilio

  • cameleon © S4C
Teitl Gwreiddiol
Cameleon
Blwyddyn
1997
Hyd y Ffilm
107 munud
Crynodeb

Yn y ddrama ddwys ac emosiynol hon gwelwn Delme Davies (Aneirin Hughes) yn ffoi o erchylltra'r Ail Ryfel Byd gan guddio yn nhŷ teras ei fam. Wrth symud o dŷ i dŷ trwy'r atig sy'n cysylltu rhwng pob tŷ yn y teras, gall osgoi cael ei ddal...ac ar yr un pryd edrych ar fywydau'r rheiny y mae'n dresbaswr yn eu tŷ. Yn raddol, mae'n camu mewn i fywyd pob un o'r tai, gyda chanlyniadau trawiadol a phellgyrhaeddol. [o becyn y wasg gwreiddiol S4C]

Ym 1942, mae Delme Davies, gwr ifanc penderfynol gyda delfrydau uchel, yn ymuno â'r fyddin er mwyn chwilio am gyffro a antur. Un noson, mae'n dychwelyd adref at ei fam weddw, Iwanna a'i frawd, Elfed Davies yn annisgwyl.

Mae'n absennol heb ganiatâd o'r fyddin ac mae'n cuddio yn llofftydd Temple Row, teras o fythynnod di-liw ym mhentref genedigol Delme yn Ne Cymru lle mae ei deulu'n byw. [o wefan ffilmiau S4C]

Cyfarwyddwr :
Ceri Sherlock
Sgript gan
Juliet Ace
Cynhyrchydd
Shan Davies
Cwmnïau Cynhyrchu
Elidir / S4C
Genre
Drama, Rhyfel,
Yn ôl i Chwilio