Ffilm gyfnod Edwardaidd gyda theimlad gothig iddi sy'n dilyn helyntion cariadol Mair (Marged Esli), wrth iddi adael ei chariad sy'n ofaint ifanc lleol o'r enw Llew (Cefin Roberts) am barchusrwydd dyn cyfoethog o'r enw Goronwy (J.O Rioberts). Defnyddia'r ffilm lawer o symboliaeth i gyfleu'r trasiedi sydd i ddod wrth i baranoia ei gŵr am ei anffyddlondeb â Llew droi'n drasiedi i'r tri.