
Mae'r ffilm wedi ei seilio ar hanes gwir sydd wedi dod yn un o chwedlau modern mwyaf nerthol Cymru. "Hedd Wyn" oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans, bardd ifanc o Gymru a fu farw o anafiadau ar 31 Gorffennaf, 1917, ar ddiwrnod cyntaf trydedd frwydr Ypres neu yr hyn a gafodd yr enw poblogaidd Ymgyrch Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.