Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol

Polisi Preifatrwydd

Mae Prifysgol Aberystwyth, gweithredwr y wefan hon ("Yn y Ffrâm", "Ni" neu "Ein") yn parchu preifatrwydd pob unigolyn sy’n ymweld â’r wefan hon [www.ynyffram.org] (y "Wefan"). Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn llywodraethu’r ffordd yr ydym Ni yn defnyddio ac yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol (y "Wybodaeth Bersonol") yr ydych chi yn ei rhoi i Ni wrth ymweld â’r Wefan. Mae Gwybodaeth Bersonol yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n eich nodi chi’n bersonol, fel eich enw, eich cyfeiriad neu’ch cyfeiriad e-bost.

Ac eithrio fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd, ni fydd Prifysgol Aberystwyth yn datgelu, yn rhentu nac yn gwerth eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti nad yw’n gysylltiedig a Ni heb gael eich caniatâd yn gyntaf, ac eithrio pan fo hynny'n ofynnol dan y gyfraith.

Ein defnydd Ni o'ch Gwybodaeth Bersonol chi

Byddwn yn defnyddio’r Wybodaeth Bersonol y byddwn Ni yn ei chasglu gan ymwelwyr â’r Wefan yn y ffyrdd canlynol:

  • i’ch galluogi chi i ddefnyddio unrhyw wasanaethau y byddwn Ni yn eu darparu i chi o bryd i’w gilydd trwy’r Wefan hon;
  • at ddibenion gweinyddu’r Wefan (gan gynnwys ein galluogi Ni i ymateb i unrhyw sylwadau am y Wefan neu adborth y byddwch yn ei rhoi i Ni efallai)

Casglu Gwybodaeth Bersonol

Gellir casglu eich Gwybodaeth Bersonol trwy’r Wefan mewn dwy ffordd:

  • logiau gwe-weinydd; a
  • nodi cyfeiriadau e-bost.

Logiau Gwe-weinydd

Pan fyddwch yn ymweld â’r Wefan hon, bydd ein gwe-weinydd Ni yn cofnodi’ch ymweliad. Bydd ein staff Ni yn dadansoddi’r wybodaeth hon mewn ffordd ystadegol er mwyn dangos tueddiadau yn arferion defnyddio y Wefan, fel poblogrwydd tudalennau penodol.

Nid yw’r wybodaeth hon mewn logiau yn eich nodi chi yn bersonol. Nid yw’n nodi eich cyfeiriad e-bost. Gallai gynnwys cyfeiriad IP a/neu enw parth wedi’i gymhwyso’n llawn, y cyfrifiadur yr ydych yn ei ddefnyddio. Dylech fod yn ymwybodol y gallai’r wybodaeth hon nodi’r cwmni yr ydych yn gweithio iddo (os byddwch yn troi at y Wefan hon o’ch man gwaith), neu’ch Cyflenwr Gwasanaeth Rhyngrwyd.

Efallai y byddwn yn logio cliciau ar y cysylltau i wefannau eraill a gynhwysir ar ein Gwefan Ni. Mae hyn er mwyn ein helpu Ni i bennu poblogrwydd cysylltau o’r fath. Gan fod y broses hon o logio cysylltau wedi’i chynnwys ar ein gwe-logiau Ni, bydd yn cofnodi manylion y cyfrifiadur sy’n gwneud y cais, ond ni fydd yn eich adnabod chi yn bersonol.

Os byddwch yn troi at ein Gwefan Ni trwy wal dân caledwedd, gweinydd dirprwyol neu unrhyw fath arall o lwybrydd (fel cyswllt modem deialu wrth eich ISP), cyfeiriad y llwybrydd fydd yn ymddangos yn ein logiau Ni ac nid cyfeiriad eich cyfrifiadur.

E-bost

Pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan, efallai y gofynnir i chi nodi eich cyfeiriad e-bost er mwyn defnyddio gwasanaeth a ddarperir gennym Ni. Dim ond yn unol ag amodau’r Polisi Preifatrwydd hwn y defnyddir y cyfeiriad e-bost hwn.Yn ogystal, bydd unrhyw ohebiaeth e-bost yn cael ei hystyried yn gyfrinachol rhyngoch chi a Ni. Ni fyddwn Ni, dan unrhyw amgylchiadau, yn trosglwyddo eich cyfeiriad e-bost ymlaen at drydydd partïon oni bai ein bod Ni wedi eich hysbysu yn flaenorol y byddwn Ni yn gwneud hynny.

Cwcis

Nid ydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon.

Dolenni i wefannau eraill

Mae’r Wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau y mae trydydd partïon yn berchen arnynt ac yn eu gweithredu, Mae gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac rydym Ni yn eich annog i’w hadolygu. Byddant yn llywodraethu’r defnydd o Wybodaeth Bersonol a gyflwynir gennych wrth i chi ymweld â’r gwefannau hyn. Nid yw Yn y Ffrâm yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros arferion preifatrwydd gwefannau trydydd parti o’r fath a byddwch yn defnyddio gwefannau o’r fath ar eich menter eich hun.

Eich hawl i weld eich Gwybodaeth Bersonol

Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r Wybodaeth Bersonol sydd gan Yn y Ffrâm amdanoch chi ac i fynnu bod unrhyw gamgymeriadau yn y wybodaeth honno yn cael eu cywiro. Ni fyddwn yn codi tâl am geisiadau o’r fath. Dylech gyfeirio eich cais at Yn y Ffrâm, Adeilad Parry Williams, Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth SY23 3AJ. Byddwn yn gwneud ymdrech resymol i ddarparu, cywiro neu ddileu Gwybodaeth Bersonol amdanoch chi yn ein ffeiliau Ni.