Beth yw Yn y Ffrâm?
Mae Yn y Ffrâm yn brosiect sydd yn cael ei ariannu gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (CAUCC) a Phanel Rhwydwaith y Diwydiannau Creadigol ar y cyd gyda Phrifysgol Aberystwyth.
Bwriad y wefan yw creu adnodd dysgu ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio ffilm a theledu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfranwyr
Rhodri ap Dyfrig - Rheolwr Prosiect
Kate Woodward - Golygydd
Lisa Richards - Cyfranwr Cynnwys
Diolch hefyd i S4C am eu cymorth yn ogystal â'r unigolion a weithiodd ar y ffilmiau sydd wedi siarad â ni.
Partneriaid Prosiect
Mae'r prosiect hwn wedi cael ei gynllunio a'i gynhyrchu drwy gymorth a chyngor y pum sefydliad partner :
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Coleg y Drindod Caerfyrddin - Non Vaughan-Williams

Prifysgol Abertawe - Dr. Gwenno Ffrancon

Prifysgol Aberystwyth - Rhodri ap Dyfrig a Kate Woodward

Prifysgol Bangor - Pwyll ap Siôn

Prifysgol Casnewydd - Geraint Cunnick

Datblygiad y wefan
Rydym yn edrych i ehangu ystod y wefan ac os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cyfrannu gyda chywiriadau, ychwanegiadau, neu fanylion ffilm neu raglen newydd yna cysylltwch â ni.
Byddwn hefyd yn ychwanegu clipiau fideo, cyfweliadau ac yn ehangu'r wefan i ddramau teledu a mwy yn y dyfodol felly gwyliwch y gofod hwn...